Casnewydd 3-1 Gateshead

Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth am y tro cyntaf mewn pedair gêm wrth guro Gateshead ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Cyn y gêm hon roedd tîm Justin Edinburgh wedi colli eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf ac wedi mynd allan o Dlws yr FA yn y rownd gyntaf, ond roedd dwy gôl gan Christian Jolley ac un gan Michael Smith yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt yn erbyn Gateshead.

Bu rhaid aros tan saith munud cyn yr egwyl tan y gôl gyntaf ac i Gasnewydd y daeth honno, Aaron O’Connor yn dod o hyd i Jolley ar ochr y cwrt cosbi ac yntau yn ergydio’n gywir i’r gornel isaf.

Dyblwyd y fantais honno yn gynnar yn yr ail hanner pan sgoriodd Smith ac roedd y tri phwynt yn ddiogel ddau funud yn ddiweddarach pan sgoriodd Jolley ei ail ef a thrydedd ei dîm.

Fe wnaeth yr eilydd, Yemi Odubade, roi llygedyn o obaith i Gateshead ugain munud o’r diwedd ond daliodd Casnewydd eu gafael ar y fantais.

Mae’r fuddugoliaeth yn ddigon i’w codi yn ôl i frig Uwch Gynghrair y Blue Square dros dro beth bynnag. Gall Wrecsam a Grimsby neidio drostynt gyda buddugoliaethau yn hwyrach brynhawn Sadwrn.

.

Casnewydd

Tîm: Julian, James, Yakubu, Pipe, Porter, Sandell, Evans (Minshull 70’), Flynn, Jolley, O’Connor (Conor Washington 89’), Smith

Goliau: Jolley 38’, 56’, Smith 53’

Cerdyn Melyn: Evans 44’

Gateshead

Tîm: Bartlett, Boyle, Curtis, Clark, Wilson (Magnay 85’), Gillies, Turnbull (Chandler 59’), Donaldson, Bullock, Hatch, Fisher (Odubade 59’)

Gôl: Odubade 70’

Cerdyn Melyn: Hatch 77’

Torf: 1,473