Bydd y cyflenwad dŵr i gannoedd o gartrefi a busnesau yn y Rhondda yn cael ei adfer y bore yma ar ôl i weithwyr Dŵr Cymru weithio drwy’r nos i atgyweirio prif bibell ddeunaw modfedd ym Mhontypridd.

Fe gollodd dros 7,000 o gwmseriaid yn Llwynypia, Clydach, Llwynycelyn, Penygraig, Tonypandy, Porth a Threalaw eu cyflenwad ddoe (Gwener) a bu’n rhaid cau unarddeg o ysgolion o’r herwydd.

Mewn datganiad dywedodd Dŵr Cymru: “mae’r system leol o bibellau bellach yn ail-lenwi a bydd yn llifo trwy dapiau’r cwsmeriaid yn ystod y bore”. Ychwanegodd y cwmni y bydd lliw y dŵr yn wahanol wrth iddo ddechrau llifo ond bod hyn yn berffaith ddiogel ac y dylai lifo’n lân o’r tap ar ôl cyfnod byr.

Mae’r cwmni wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra gan ychwanegu bod y gwaith o drwsio’r bibell wedi bod “yn dasg anodd iawn” gan daro’r bai ar y glaw trwm achosodd i beth o’r tir symud.

Ychwanegodd Dŵr Cymru bod dros gant o bobl wedi gweithio yn ystod y nos i sicrhau bod y cyflewnad yn cael ei adfer.