Tai Glasdir (hysbyseb Taylor Wimpey)
Dywed swyddogion Cyngor Sir Ddinbych ei bod yn ymddangos bod yr amddiffynfeydd rhag llifogydd ar stâd Glasdir yn Rhuthun yn cydymffurfio efo’r amodau cynllunio ac nad yw’n glir hyd yma pam bod dŵr wedi llifo i mewn i’r tai wrth i afon Clwyd orlifo dydd Mawrth diwethaf.

Roedd cwmni Taylor Wimpey wedi adeiladu arglawdd ac wedi codi lefel y lloriau yn y tai yn unol ag amodau’r caniatad cynllunio ac yn ôl datganiad gan Gyngor Sir Ddinbych “mae’n edrych yn debyg bod yr amddiffynfeydd yn ymddangos fel petae nhw’n cydymffurfio efo’r amodau osodwyd fel rhan o’r broses gynllunio.”

Mae’r cyngor hefyd yn dweud nad yw’n glir eto pam bod y dŵr wedi gorlifo dros yr amddiffynfeydd gan ychwanegu y gall creu model o’r hyn ddigwyddodd fod o gymorth i ateb y cwestiwn.

Dywedodd y cyngor nad oes diben dyfalu rhagor am achos y llifogydd ar hyn o bryd ac na fydd datganiad arall yn cael ei gyhoeddi hyd nes y bydd yr ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd drosodd.

Roedd trigolion stâd Glasdir wedi cael gwybod mai siawns o 1 mewn 1,000 o flynyddoedd oedd yna i’w cartrefi ddioddef llifogydd ond bellach mae nhw’n holi os y cafodd digon ei wneud i warchod y tai.

Mae Cyngor Sir Ddinbych ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gobeithio cyhoeddi canlyniadau rhan gynta’r ymchwiliad yr wythnos nesaf gan ychwanegu na fydd yr adroddiad cyflawn ar gael am “rai wythnosau”.

Mae’r gwaith o lanhau’r tai a’r adeiladau gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yn Rhuthun a Llanelwy yn parhau ond fydd llawer o’r trigolion ddim yn cael dychwelyd adref am fisoedd lawer.

Yn y cyfamser mae Cyngor Sir Ddinbych yn cau y canolfannau argyfwng agorwyd yn syth wedi’r llifogydd gan agor dwy ganolfan i gynnig cyngor a chymorth ar stâd Glasdir ac yn Llanelwy.

Mae’r cyngor hefyd wedi gofyn i bobl roi’r gorau i gyfrannu dillad a phethau ymolchi bellach gan ofyn yn hytrach am gyfraniadau ariannol i’r cronfeydd agorwyd gan gynghorau Llanelwy a Rhuthun.