Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi bod yn ymweld â Llanelwy yn Sir Ddinbych heddiw yn dilyn y llifogydd yno ddoe.

Bu’n cwrdd â theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy prynhawn ma, ynghyd a’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhoi cymorth iddyn nhw.

Bu Carwyn Jones hefyd yn cwrdd ag aelodau o’r gwasanaethau brys ac yn gweld y difrod drosto’i hun a achoswyd ar ôl i Afon Elwy orlifo’i glannau. Cafodd dros 400 o dai eu difrodi yn y llifogydd a bu farw gwraig 91 oed, Margaret Hughes, yn Nhai’r Felin yn y ddinas.

Dywed Heddlu’r Gogledd bod cwest wedi agor a’i ohirio i’w marwolaeth, ond nad ydyn nhw’n trin ei marwolaeth fel un amheus.

Mae nifer o dai yn dal heb gyflenwad trydan ac mae cannoedd o bobl wedi treulio’r nos o’u cartrefi.

Roedd cartrefi hefyd wedi cael eu difrodi yn Rhuthun, Rhuddlan, Llanfairtalhaiarn a Sir Conwy.

Galw ar gwmnïau yswiriant i ‘ymateb yn brydlon’

Dywedodd Carwyn Jones: “Mae’r lluniau o’r llifogydd rydyn ni wedi’u gweld mewn rhannau o’r Gogledd dros y 24 awr ddiwethaf wedi bod yn wirioneddol frawychus.

“Mae’n gyfnod anodd iawn i’r rhai hynny sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi ac sydd wedi gweld y difrod sylweddol i’w heiddo a’u busnesau.”

Wrth ddiolch i’r gwasanaethau brys a’r gwirfoddolwyr am eu gwaith diflino yn clirio’r llanast wedi’r llifogydd, dywedodd y Prif Weinidog mai ei flaenoriaeth erbyn hyn yw sicrhau bod pobl sydd wedi cael eu heffeithio yn gallu dychwelyd i normalrwydd cyn gynted â phosib.

Mae wedi galw ar gwmniau yswiriant i “ymateb yn brydlon”.

Cronfa apêl

Yn y cyfamser mae cronfa apêl wedi cael ei sefydlu i helpu’r trigolion a gafodd eu heffeithio yn rhan isaf Llanelwy.

Dywedodd Maer Llanelwy, y Cynghorydd John Roberts fod cannoedd  o dai wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ddoe, ond bod y dref heddiw yn edrych yn “hollol normal.”

“Mae’r ffyrdd ar agor ac mae’r siopau ar agor.

“Ond mae rhai pobol yn dychwelyd i’w tai am y tro cyntaf ac yn gweld y llanast.

“Fe allai gymryd rhai misoedd i’r dref ddychwelyd i’r hyn ydoedd, ond un peth positif sydd wedi codi o beth negyddol ydy bod y gymuned wedi tynnu at ei gilydd ac mae pawb yn barod iawn i helpu,” meddai John Roberts.

Age Cymru yn lansio apêl

Mae Age Cymru hefyd wedi lansio apêl argyfwng.

Dywed Age Cymru eu bod yn  awyddus i godi cymaint o arian ag y gallan nhw er mwyn helpu pobl dros 60 oed sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd.

Dywedodd  Robert Taylor, Prif Swyddog Age Cymru: “Rydym wedi clywed straeon am dai pobl hŷn yng ngogledd Cymru yn cael eu heffeithio gan y llifogydd, yn enwedig o amgylch Llanelwy, Gwynedd ac  Ynys Môn, gyda thrigolion yn cael eu symud o’u cartrefi mewn ambiwlans.

“Mae pobl hŷn yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe hefyd wedi cael eu heffeithio dros yr wythnos ddiwethaf.

“Clywsom am stad fechan o fyngalos i bobl hŷn yn Llanelwy oedd o dan bedair troedfedd o ddŵr.

“Mae Age Cymru yn awyddus i helpu pobl dros 60 oed sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd i ailadeiladu eu bywydau – gallwch ein helpu i wneud hyn.

“Bydd yr holl arian a godir yn mynd i bobl hŷn mewn angen drwy ein rhwydwaith o bartneriaid lleol a sefydliadau lleol megis Gofal a Thrwsio.”