Bu farw dynes yn dilyn gwrthdrawiad car ym Mhowys ddoe.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A4133 rhwng Trefyclo a Leintwardine tua 10.48yb ddydd Mawrth.

Roedd dau gerbyd – car Kia Rio a fan Citroen – wedi bod mewn gwrthdrawiad. Cafodd gyrrwr y car ei chludo mewn hofrennydd i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach. Cafodd gyrrwr y fan driniaeth am sioc.

Roedd y ffordd ar gau am bum awr tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion i’r digwyddiad i’w ffonio ar 101.