Dwayne Peel
Mae’r mewnwr sydd â’r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru wedi dweud ei fod dal yn ysu i chwarae dros ei wlad.

Ers symud i chwarae i Sale yn 2008 mae Dwayne Peel wedi cael ei anwybyddu gan dîm hyfforddi Cymru, ac mae’r mewnwr o Gwm Gwendraeth wedi datgelu yn ei hunangofiant newydd ei siom am y modd y cafodd ei drin.

“Dwi’n gwbod ’mod i’n ddigon da o hyd i gynrychioli ’ngwlad, a dwi’n teimlo y gallwn i fod wedi cal ’y nhrin yn well,” meddai Dwayne Peel.

“Ma’ rhai o’r farn ’mod i’n cael fy anwybyddu gan y dewiswyr oherwydd bod llygaid Warren a’r tîm bellach ar y Cwpan y Byd nesa, pan fydda i, falle, yn rhy hen yn eu barn nhw.”

“Ond dim ond 33 oed fydda i bryd hynny – bydd Mike Phillips yn 32 oed ac mae ’na fewnwyr nodedig wedi chware yng Nghwpan y Byd pan o’n nhw’n hŷn nag y bydda i yn 2015.”

Roedd Dwayne Peel yn ddewis cyntaf i Gymru ac i’r Llewod ond ers dyfodiad Warren Gatland mae wedi gweld mewnwyr megis Tavis Knoyle, Lloyd Williams, a Richie Rees yn gwisgo’r crys rhif 9 o’i flaen.

‘Un cynnig arall ar adennill fy lle’

Ar ôl cael anaf i’w ysgwydd dim ond saith gwaith mae Peel wedi chwarae dros Sale y tymor yma, ac nid yw safle’r clwb ar waelod uwchgynghrair yr Aviva wedi bod yn fanteisiol wrth geisio denu sylw hyfforddwyr Cymru.

“Dwi ddim wedi rhoi’r twls ar y bar o ran gwisgo’r crys coch unwaith eto,” meddai Dwayne Peel.

“Mae’r tymor presennol yn un hollbwysig i fi a dwi’n mynd i roi un cynnig taer arall iddi ar adennill fy lle yng ngharfan Cymru.”

Mae Dwayne Peel yn lansio ei hunangofiant heno ym mwyty’r Sosban yn Llanelli, yng nghwmni’r dyfarnwr Nigel Owens a’r actor Gwyn Elfyn.

Mae Dwayne Peel yn cyd-berchen ar y bwyty gyda’r maswr rhyngwladol Stephen Jones a dau arall o ardal Llanelli.

Pôl-piniwn isod – cliciwch i roi eich barn