Derby 1–1 Caerdydd

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi rhwng Caerdydd a Derby ar Pride Park nos Fawrth, canlyniad sydd yn ddigon i gadw’r Cymry ar frig y Bencampwriaeth.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen yn gynnar gyda gôl Heidar Helguson ond unionodd Theo Robinson i’r tîm cartref hanner ffordd trwy’r ail hanner gyda Chaerdydd i lawr i ddeg dyn yn dilyn cerdyn coch Craig Noone.

Dim ond ychydig dros ddeg munud gymerodd hi i’r tîm ar y brig fynd ar y blaen diolch i ymdrech Helguson. Tarodd peniad gwreiddiol Mark Hudson o groesiad Noone yn erbyn y trawst ond roedd Helguson wrth law i benio’r bêl dros y llinell.

Felly yr arhosodd pethau tan yr egwyl ond daeth trobwynt yn y gêm ar ôl awr o chwarae. Derbyniodd Noone ddau gerdyn melyn mewn cyfnod o dri munud a bu rhaid i’r ymwelwyr chwarae bron i hanner awr gyda deg dyn.

Manteisiodd Derby yn syth gan sgorio gôl daclus i unioni’r sgôr. Daeth pas dreiddgar Conor Sammon o hyd i Craig Bryson yn y cwrt cosbi a chwaraeodd yntau hi ar draws y cwrt chwech i alluogi Robinson i rwydo.

Bu rhaid i ddeg dyn Malky Mackay amddiffyn yn ddewr am weddill y gêm, ond er i Nathan Tyson ddod yn agos i Derby yn yr eiliadau olaf, fe ddaliodd Caerdydd eu gafael ar y pwynt.

Ac mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i’w cadw ar frig y tabl gan mai gêm gyfartal a gafodd Crystal Palace hefyd, oddi cartref yn Hull. Mae Middlesbrough yn cau’r bwlch yn y trydydd safle serch hynny ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Huddersfield.

.

Derby

Tîm: Legzdins, Brayford, Roberts (O’Connor 26’), Buxton, Keogh, Bryson, Coutts, Jacobs (Tyson 67’), Hughes, Robinson (Hendrick 82’), Sammon

Gôl: Robinson 69’

Cardiau Melyn: Bryson 37’, O’Connor 55’

Caerdydd

Tîm: Marshall, Hudson, Connolly, Ralls, Nugent, Whittingham, Kim Bo-Kyung, Noone, Gunnarsson (Conway 73’), Helguson (Mason 79’), Bellamy (Mutch 70’)

Gôl: Helguson 11’

Cardiau Melyn: Noone 60’, Mutch 80’

Cerdyn Coch: Noone 63’

Torf: 20,911