Robin McBryde
Mae Robin McBryde wedi dweud fod yn rhaid i Gymru ddechrau’n gryf yn erbyn Awstralia os ydyn nhw am gael unrhyw obaith o ennill y gêm ddydd Sadwrn.
Cafodd Cymru hanner cyntaf hunllefus yn erbyn Seland Newydd gan golli tri chwaraewr allweddol ac ildio 23 o bwyntiau.
“Fe wnaethon ni adael gormod o waith i’n hunain ar ôl yr hanner cyntaf,” meddai’r cyn-fachwr sydd bellach yn hyfforddi blaenwyr Cymru.
“Roedd y sgôr yn gyfartal yn yr ail hanner ac mae angen i ni ddechrau gyda’r un hwyl ddydd Sadwrn.
“Rydym ni’n chwarae yn erbyn yr ail dîm gorau yn y byd a bydd rhaid i ni fod ar ein gorau,” meddai.
Mae’n rhaid i Gymru guro Awstralia er mwyn parhau o fewn yr wyth detholyn uchaf yn y byd, ac felly cael grŵp haws yn y Cwpan y Byd nesaf yn 2015. Mae’r grwpiau yn cael eu tynnu allan o het yn Llundain ddydd Llun.
Canmol y prop Scott Andrews
Mae Cymru wedi gohirio cyhoeddi’r tîm tan Ddydd Iau o achos anafiadau, ac roedd gan Robin McBryde air o ganmoliaeth i’r prop Scott Andrews a ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn y Crysau Duon yn eilydd i Aaron Jarvis.
“Rydych chi eisiau gweld chwaraewyr yn dod oddi ar y fainc ar dân i chwarae,” meddai McBryde.
“O ystyried fod Scott Andrews heb chwarae llawer y tymor yma roedd wedi gosod llwyfan yn y sgrym yn erbyn Seland Newydd.”
“Ar ben ei waith yn y chwarae tynn oedd ei waith yn y chwarae rhydd. Roedd yn effeithiol tu hwnt.”
Mae disgwyl mai Andrews fydd yn dechrau yn brop pen tynn yn erbyn Awstralia gyda Samson Lee o’r Sgarlets yn cael lle ar y fainc.