Mae Canolfan Organig Cymru yn gwneud defnydd o wefannau rhyngweithiol cymdeithasol er mwyn annog teuluoedd yng Nghymru i wneud eu gwaith ymchwil cyn archebu eu tyrcwn Nadolig eleni.
Mae tua 10 miliwn o dyrcwn yn cael eu gwerthu ym Mhrydain cyn y Nadolig pob blwyddyn ond mae safonau byw llawer ohonyn nhw’n wael iawn cyn iddyn nhw ei gwneud hi i’r bwrdd bwyd.
Dyna pam bod Canolfan Organig Cymru wedi dechrau tudalen Facebook gyda gwybodaeth am safonau byw tyrcwn sy’n cael eu magu mewn cytiau o’i gymharu ag adar maes organig.
‘Pryder ynghylch lles anifeiliaid’
“Daw’n syndod mawr i lawer o bobl weld pa mor wahanol yw’r safonau rhwng tyrcïod organig ac adar sy’n cael eu magu mewn cytiau, sy’n byw bywydau llawer byrrach mewn heidiau anhygoel o fawr ac sy’n cael eu hanffurfio a’u trin yn ddwys â gwrthfiotigau,” meddai Dafydd Owen o Ganolfan Organig Cymru.
“Gwelwyd adfywiad o ran gwerthiant dofednod organig yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dengys astudiaethau fod hyn yn cael ei ysgogi’n rhannol gan bryderon ynghylch lles anifeiliaid. Roedden ni am atgoffa pobl nad yw pob twrci’n cael yr un profiad cyn diweddu lan ar ein platiau adeg y Nadolig.”
Hanes Owain Organig a Bil y Twrci Cwt
Bydd yr ymgyrch hefyd yn gwneud defnydd o wefan Twitter wrth i’r cyhoedd ddilyn hynt a helynt dau dwrci – Owain Organig(@organiccymru) a Bil y Twrci Cwt(@BarnRearedBill) – wrth iddyn nhw ddisgrifio’i bywydau tra gwahanol wrth ddynesu at ddiwrnod Nadolig. Bydd y pâr annhebygol yn diweddaru tudalennau Facebook y Ganolfan â hanesion o’u bywydau tra gwahanol gan rannu straeon â dilynwyr y Ganolfan ar Twitter.
“Yn ystod y chwe mis diwetha, rydym wedi cael cennin a defaid sy’n siarad fel rhan o ymgyrch felly cam digon naturiol oedd tyrcwn trydarus,” meddai Dafydd Owen. “Yn amlwg, dull doniol yw e, ond mae yna negeseuon difrifol y tu ôl iddo ynghylch lles anifeiliaid a chynaliadwyedd.”