Paul Silk yn cyflwyno ei adroddiad
Mae swyddog cenedlaethol TUC Cymru, Julie Cook, wedi dweud eu bod yn cefnogi refferendwm ar ddatganoli rhagor o bwerau trethu a benthyca i Gymru.
Roedd Julie Cook yn siarad mewn cynhadledd ar bwerau trethu a benthyca yng Nghaerdydd heddiw sy’n cael ei drefnu gan y Sefydliad Materion Cymreig. Roedd hi’n cymryd rhan mewn sgwrs banel oedd yn ymateb i argymhellion y Comisiwn Silk gafodd ei gyhoeddi wythnos ddiwetha’.
Dywedodd Julie Cook wrth y gynhadledd bod “TUC Cymru yn croesawu’r cyfle i wthio ymlaen â datganoli ar gyfer Cymru deg a ffyniannus.”
Aeth ymlaen i ddweud bod “TUC Cymru yn croesawu datganoli trethi a benthyca sy’n cynnig gobaith difrifol o wella bywydau pobl yng Nghymru,” ond aeth ymlaen i ddadlau “bod rhaid i adroddiad Silk weithio i wella bywydau pobl Cymru.”