Mae 200,00 o drigolion tai mewn peryg o golli eu polisi yswiriant tŷ ar ôl i gwmniau yswiriant a’r Llywodraeth fethu â chytuno ar gynllun i yswirio tai mewn ardaloedd sydd mewn peryg o ddioddef llifogydd.
Wrth i law trwm daro rhannau o wledydd Prydain mae’r ddwy ochr yn trafod dyfodol cytundeb sy’n dod i ben y flwyddyn nesaf ac sy’n sicrhau fod trigolion mewn ardaloedd ble mae peryg llifogydd yn medru fforddio yswiriant tai.
Dywed Nick Starling o Gymdeithas Yswirwyr Prydain fod y ddwy ochr heb lwyddo i ddod i gytundeb.
“Roedd gyda ni ddwy flynedd i sortio hyn allan.
“Mae’r Llywodraeth wedi ei gwneud hi’n glir eu bod nhw’n gwrthod ein cynigion ni.”
Ond mae’r Gweinidog Llifogydd yn San Steffan, Richard Beynon, wedi beirniadu Cymdeithas yr Yswirwyr am leisio eu pryderon tra bod pobol yn gofidio am lifogydd. Mae’n gwadu fod y trafodaethau rhwng y ddwy ochr wedi dod i stop.
‘Rhybudd i Lywodraeth Cymru’
Mae 23 o rybuddion llifogydd yn dal mewn grym yng Nghymru, gan gynnwys rhybudd difrifol yn Abererch ger Pwllheli, yn Ninbych-y-Pysgod, ac ar lan y Ddyfrdwy rhwng Llangollen a Chaer.
Mae disgwyl i Ogledd Cymru gael rhagor o law brynhawn yma.
Yn y cyfamser mae llefarydd y Ceidwadwyr ar yr amgylchedd wedi dweud fod y llifogydd diweddar yn rhybudd i Lywodraeth Cymru beidio torri’r gyllideb er mwyn delio gyda llifogydd.
Yn ôl Russell George AC bydd y gyllideb ar gyfer delio gyda llifogydd ac erydu arfordirol yn gostwng £30m dros y pedair blynedd nesaf.
“Nid yw torri’r gyllideb yn gwneud synnwyr,” meddai Russell George.
“Mae’n hollbwysig i gael mesurau i atal llifogydd arfordirol, ynghyd â strategaeth well i ddelio gyda bygythiad dyfroedd mewndirol,” meddai.