Anna Ryder Richardson
Mae’r cyn gyflwynydd teledu Anna Ryder Richardson wedi amddiffyn y parc bywyd gwyllt mae hi’n berchen arno ar ôl cael dirwy o £70,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch wythnos ddiwethaf.
Cafodd Manor House Wildlife Park ger Dinbych-y-pysgod, sy’n cael ei redeg gan Ryder Richardson a’i gwr Colin MacDougall, ddirwy yn Llys y Goron Abertawe wythnos ddiwethaf ar ol i blentyn ddioddef anafiadau difrifol i’w ben.
Roedd cangen o goeden wedi disgyn ar ben Gruff Davies-Hughes o Lanelli mewn gwyntoedd cryfion tra roedd yn ymweld â’r parc ym mis Awst 2010.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd a bu yn yr uned ofal dwys am dridiau.
Wrth siarad ar raglen ITV Daybreak heddiw, dywedodd Ryder Richardson: “Dy’n ni ddim yn euog – gall neb fod wedi rhagweld bod y goeden am ddod lawr, neb. Mae hynny wedi bod yn glir o’r cychwyn.”
Dywedodd bod asesiadau risg ac iechyd a diogelwch yn angenrheidiol ar gyfer trwydded y sw, a’u bod yn cael eu cynnal bob tair blynedd. Ychwanegodd bod asesiadau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal bob blwyddyn.
Cafodd MacDougall, 46, ddirwy o £4,000 ychwanegol ar ol iddo bledio’n euog i ddau gyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch. Cafodd y parc gyfanswm o £111,000 o ddirwyon yn ymwneud a’r achos.
Cafodd y cyhuddiadau yn erbyn Ryder Richardson eu gollwng cyn i’r achos ddechrau, ar ol i’r cwmni newid eu ple i euog.
Dywedodd Ryder Richardson y byddai’r dirwyon yn golygu y byddai’r parc yn dioddef yn ariannol.
“Fe fydd hi’n gwneud pethau’n anodd iawn y flwyddyn nesaf ac mae’n bosib na fyddwn ni’n gallu gwneud llawer i’r parc ac na fyddwn ni’n gallu cyflogi rhai pobl, ond dwi’n credu bod hynny’n benderfyniad i fy ngŵr,” meddai.