Gareth Jones, cyn gadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu'r Cynulliad
Dyw adolygiad y Gweinidog Addysg i ddyfodol y gyfundrefn addysg yng Nghymru ddim yn mynd i’r afael â’r problemau go-iawn, yn ôl cyn-Aelod Cynulliad a Chomisiynydd Addysg.
Yn gynharach yr wythnos yma, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews y bydd adolygiad yn ystyried y posibilrwydd, ymhlith dewisiadau eraill, o drosglwyddo cyfrifoldeb am addysg yn llwyr o gynghorau lleol i Lywodraeth Cymru.
Ond yn ôl Gareth Jones, cyn-gadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad tan ei ymddeoliad fel AC Aberconwy y llynedd, nid hyn yw’r ateb.
“Newid y drefn ar lawr gwlad sydd angen ei wneud, nid symud penderfyniadau ymhellach i ffwrdd o gymunedau lleol,” meddai.
Mae’n galw’n benodol am ad-drefnu ysgolion yn ddalgylchoedd, gydag un pennaeth yn unig yn brifathro ar ysgol uwchradd ac ar bob ysgol gynradd sy’n bwydo iddi.
“Mi fyddai cyfundrefn o’r fath yn creu màs critigol o 1200 i 1500 o ddysgwyr o 3 hyd at 18 oed,” meddai Gareth Jones.
“Mi fyddai manteision addysgol amlwg i drefniant o’r fath, yn caniatáu arbedion trwy rannu adnoddau, yn enwedig athrawon ac athrawon llanw.
“Mi fyddai’n system fwy effeithiol hefyd – dw i’n amcangyfrif y gellid gwneud tua 10 y cant o arbedion ariannol o gymharu â’r drefn bresennol – arian y gellid ei fuddsoddi yn y dalgylch.”
Gormod o brifathrawon
Gan ddadlau bod y system bresennol yn “rheolaethol drwmlwythog”, gofynna:
“A oes angen 10 pennaeth a 10 dirprwy a 10 pob uwch-swydd arall i 1200-1500 o ddisgyblion?”
Dywed hefyd y dylai’r dalgylch gan ei reoli gan un Fwrdd Menter a Dysgu i gymryd lle’r drefn bresennol o lywodraethwyr.
“Yn ogystal â rheoli’r ysgol, mi allai’r Bwrdd fod yn gyfrifol am bob math o wasanaethau cymunedol eraill, fel hamdden, llyfrgelloedd a gofal plant,” meddai.
“A phetai’r Bwrdd ar ffurf menter gymdeithasol, byddai â’r gallu i gystadlu a denu cronfeydd cymunedol neu Ewropeaidd na all awdurdodau lleol eu cael.”