Fe fydd pedwar Comisiynydd Heddlu newydd Cymru’n dechrau ar eu gwaith heddiw, union wythnos ar ôl cael eu hethol.

O hyn ymlaen, nhw fydd yn gosod strategaeth ac yn arolygu gwaith y pedwar heddlu, gan ddisodli’r hen Awdurdodau Heddlu.

Fe fyddan nhw ar eu prawf o’r dechrau ar ôl lefel isel y bleidlais yn yr etholiadau ac am fod cymaint o bleidleisiau wedi’u sbwylio i ddangos gwrthwynebiad i’r syniad.

Dyw hi ddim yn glir eto faint yn union o rym fydd ganddyn nhw na sut y bydd y berthynas rhyngddyn nhw a Phrif Gwnstabliaid yn gweithio.

Yr enwau

Dyma’r pedwar Comisiynydd yng Nghymru:

  • Gogledd Cymru – Winston Roddick, y cyn blisman, y cyn farnwr a chyn Gwnsler Cyffredinol y Cynulliad.
  • Dyfed-Powys – Christopher Salmon, Ceidwadwr.
  • De Cymru – Alun Michael, y cyn AS a chyn weinidog Llafur yn y Swyddfa Gartref
  • Gwent – Ian Johnston, cyn blismon annibynnol.

Fe fydd gwaith y Comisiynwyr yn ei dro yn cael ei arolygu gan Baneli Heddlu a Throseddu sy’n gorfod cynnwys un aelod o bob awdurdod lleol yn yr ardal ac o leia’ ddau aelod annibynnol.