Mae grŵp sy’n ymgyrchu dros faterion democratiaeth wedi croesawu argymhelliad Comisiwn Silk y dylai Caerdydd a San Steffan gyd-weithio yn fwy.

Yn ôl y Gymdeithas Newid Etholiadol mae blerwch y papurau pleidleisio dwyieithog yn dangos nad yw pob rhan o Lywodraeth Prydain wedi “dal fyny gyda datganoli” a bod angen mwy o drafod rhwng y ddwy lywodraeth.

Dywed Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru, fod angen hefyd ail-ystyried nifer Aelodau’r Cynulliad er mwyn medru craffu deddfau yn ddigonol.

“Yng Nghymru, o’r 60 Aelod Cynulliad mae 11 yn weinidogion llywodraeth a dau yn llywyddu busnes y Cynulliad. Golyga hyn mai dim ond 47 AC sydd gennym er mwyn craffu ar sut mae trethi yn cael eu codi, arian cyhoeddus yn cael ei wario, a deddfau yn cael eu gwneud.

“Yn yr Alban mae 105 o seneddwyr yn herio llywodraeth Salmond.”

Mae’r Gymdeithas Newid Etholiadol yn galw ar ail ran Comisiwn Silk i ystyried maint a strwythur y Cynulliad Cenedlaethol.