Bydd y Comisiwn i Ddatganoli yng Nghymru (sy’n cael ei adnabod fel Comisiwn Silk) yn cyhoeddi ei argymhellion yfory.

Wrthi inni ddisgwyl i glywed beth fydd argymhellion y Comisiwn ynglŷn â throsglwyddo’r hawl i drethu a phwerau eraill i weinidogion Cymru, mae’r Gymdeithas Newid Etholiadol yn rhybuddio heddiw y bydd yn rhaid ailedrych ar faint y Cynulliad Cenedlaethol yn sgil y galwadau ychwanegol ar ei aelodau.

Mae’r Gymdeithas yn galw ar Gomisiwn Silk i gysidro faint o Aelodau o’r Cynulliad byddai eu hangen er mwyn sicrhau y bydd y gweinidogion yn wirioneddol atebol am gyllid £15 biliwn Llywodraeth Cymru.

Meddai Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru, “Dros y blynyddoedd diwethaf mae pwerau ychwanegol wedi cael eu datganoli i’r Cynulliad, gan gynnwys pwerau llunio deddfau llawn y llynedd.

“Mae’r aeddfedu hyn mewn datganoli i’w groesawu ond mae’r ffaith fod 13 o’r 60 sy’n aelodau o’r Cynulliad naill ai yn weinidogion neu’n gyfrifol am fusnes y Cynulliad yn golygu bod ’na gyfyngiad ar nifer y rhai sy’n gallu herio penderfyniadau’r Llywodraeth.”

Dywedodd bod angen Cynulliad Cenedlaethol cryf sy’n gallu archwilio sut mae trethi yn cael eu codi, sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, a sut mae deddfau yn cael eu llunio.