Mae cartref y bardd Hedd Wyn gam yn nes at gael ei droi’n ganolfan i gofio amdano.

Fe fydd Parc Cenedlaethol Eryri’n cael bron £150,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer fferm Yr Ysgwrn ger Trawsfynydd.

Fe ddaeth cartre’ Bardd y Gadair Ddu, a laddwyd yn y Rhyfel Mawr yn 1917, ychydig wythnosau cyn  i’w awdl ennill cadair Eisteddfod Birkenhead, i ddwylo’r Parc ynghynt eleni.

Tan hynny, roedd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, wedi bod yn gofalu amdano ac yn croesawu ymwelwyr yno o bob rhan o’r byd.

Y bwriad yn awr yw troi’r safle’n amgueddfa a chanolfan ddehongli a fydd hefyd yn cofio’r holl Gymry a gafodd eu lladd yn y rhyfel.

Meddai Manon Williams

“Mae’r Ysgwrn yn cynrychioli llawer o themâu allweddol yn ein treftadaeth, o lenyddiaeth i ffermio traddodiadol,” meddai Manon Williams, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri wrth gyhoeddi’r newyddion am yr arian.

“Mae’n gweddu i’r dim bod y prosiect yma’n cael ei ddatblygu mewn pryd ar gyfer digwyddiadau coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.”

Roedd Llywodraeth Cymru a Chronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol wedi rhoi arian at brynu’r fferm sydd wedi ei restru’n Raddfa II*, yn bennaf oherwydd ei gysylltiadau â Hedd Wyn

Meddai Gerald

“Mi addewais wrth fy Nain y byddwn yn cadw drws Yr Ysgwrn ar agor fel ffordd o dalu gwrogaeth i ddewrder a llwyddiant fy ewythr,” meddai Gerald Williams, sydd bellach yn 83 oed.

“Mae cael gwybod fod Awdurdod y Parc wedi llwyddo yn y cais yma i ddatblygu eu syniadau ar gyfer yr Ysgwrn yn newyddion arbennig ac yn sicrhau y bydd y lle yn cael ei warchod a gwybodaeth am fywyd a gwaith Hedd Wyn ar gael i ymwelwyr am flynyddoedd lawer i ddod.”