Mae cwpwl o Lanbedr Pont Steffan fu’n casglu arian i Blant Mewn Angen ers 30 mlynedd yn gobeithio y byddan nhw’n croesi’r £1 miliwn dros yr elusen yfory.
Mae Goronwy a Beti Evans wedi bod yn cydlynu’r broses gasglu yn Llanbed ers dechrau ymgyrch Plant Mewn Angen y BBC ac maen nhw’n anelu at godi o leiaf £16,000 yfory er mwyn croesi’r filiwn.
“Bues i’n recordio pytiau ar gyfer Helo Bobol blynydde nol a dyma fi’n cael fy ngwahodd i drefnu’r codi arian yma yn yr ardal,” meddai Goronwy Evans, sydd yn weinidog ar gapel Undodaidd Brondeifi yn Llanbed.
“Y flwyddyn gyntaf anelon ni at godi £2,000 ac fe gaethon ni £6,000, ac mae’r peth wedi tyfu o fan yna.
“Pan oedd ein rhif ni’n ymddangos ar y sgrin deledu roedd ganddon ni bedair lein yn y tŷ er mwyn derbyn yr holl alwadau a bobol yn ffonio o’r Alban a phob man.
“Mae’r peth wedi tyfu arnon ni a phan ydych chi’n gweld cymaint o blant a sefydliadau yn elwa o’r arian rydych chi’n cael eich ysbrydoli,” meddai Goronwy Evans.
Dywedodd Goronwy Evans mai dyma fydd y flwyddyn olaf y bydd ef a Beti yn cydlynu’r codi arian yng ngorllewin Cymru, a’i fod yn gobeithio y bydd rhywun arall yn fodlon cario mlaen â’r gwaith, ac y byddai hynny’n dod â boddhad iddyn nhw.
Yn groes i’r ystrydeb, dywedodd hefyd fod y Cardis yn barod iawn i gyfrannu.
“Lle mae angen fe fydd y Cardis bob amser yn ymateb ac yn cyfrannu, ac maen nhw’n frwd iawn i’n gweld ni’n cyrraedd y filiwn,” meddai.