Lesley Griffiths, Gweinidog Iechyd
Mae 10,000 o bobol ym mhob cwr o Gymru wedi cael eu hyfforddi i allu adnabod sumtomau problemau iechyd meddwl, ac i allu cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr.

Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn un sydd wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei redeg a’i weinyddu gan elusen Mind Cymru.

Fe ddechreuodd gynnig hyfforddiant yn 2007, a bellach mae nifer y bobol sydd wedi elwa a chymryd rhan wedi cyrraedd 10,000.

Mae’r cwrs yn dysgu pobol am broblemau iechyd meddwl ac yn rhoi’r sgiliau iddyn nhw allu helpu pobol sydd mewn creisis.

Mae’n cynnwys hyfforddiant ar gam-ddefnydd o alcohol a chyffuriau, ynghyd â sumtomau iselder ac ymddygiad pobol sy’n meddwl am ladd neu eu hanafu eu hunain.

“Mae un o bob pedwar o bobol yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl bob blwyddyn,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Iechyd, Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cwrs hwn yn allweddol i geisio sicrhau fod mwy o bobol yn gwella o afiechyd meddwl – trwy fesurau sy’n ceisio’i atal neu ymyrraeth gynnar.”