Winston Roddick
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cyhoeddi ei chefnogaeth i gyn-Gwnsler Cyffredinol y Cynulliad yn yr etholiadau am Gomisiynwyr yr Heddlu ar Dachwedd 15.

Yn ôl Kirsty Williams, mae gan Winston Roddick y profiad angenrheidiol ar gyfer gwneud y gwaith yn effeithiol. Mae’n gyn-swyddog heddlu, yn fargyfreithiwr ac  yn farnwr.

Mae’n sefyll yn yr etholiad am Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yng Ngogledd Cymru.

“Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn cynnig ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau hyn, oherwydd nad ydyn ni’n credu y dylid dod â gwleidyddiaeth i mewn i’r heddlu,” meddai Kirsty Williams.

“Er hynny, rydw i’n cefnogi Winston Roddick oherwydd, fel ymgeisydd annibynnol, mae’n rhydd o unrhyw bwysau gwleidyddol.

“Mae pobol Cymru angen heddluoedd sy’n gweithio iddyn nhw – ac nid i blaid wleidyddol.”