Ched Evans

Mae’r pêl-droediwr Ched Evans wedi colli ei apêl heddiw yn erbyn dyfarniad o dreisio merch.

Mae hefyd wedi colli ei apêl yn erbyn ei ddedfryd o bum mlynedd yn y carchar.

Roedd  achos cyn-ymosodwr Sheffield a Chymru yn cael ei glywed gan dri barnwr yn y Llys Apêl yn Llundain.

Fe gafodd y gŵr 23 blwydd oed ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill eleni am dreisio merch 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl.

Roedd Evans wedi gwadu’r cyhuddiad ond fe’i cafwyd yn euog yn Llys y Goron Caernarfon o dreisio’r ferch ym mis Mai’r llynedd.

Roedd wedi cyfaddef iddo gael rhyw gyda’r ferch ond dywedodd hi nad oedd yn cofio’r digwyddiad.

Roedd yr erlyniad wedi dweud bod y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn rhy feddw i gydsynio i gael rhyw.

Dywedodd y barnwr yn y llys apêl nad oedd “unrhyw sail posib a fyddai’n cyfiawnhau ymyrryd” a’r dyfarniad gwreiddiol.