Bydd Rhys Priestland yn dechrau'n faswr
Mae Rob Howley wedi cyhoeddi enwau’r 15 Cymro fydd yn herio’r Ariannin yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae’r hyfforddwr dros dro wedi penderfynu dewis mewnwr y Sgarlets, Tavis Knoyle, yn hytrach na’r gŵr sydd wedi hawlio’r rhif 9 ers rhai blynyddoedd, Mike Phillips.
Roedd tipyn o ddyfalu dros safle’r maswr hefyd gyda Dan Biggar o’r Gweilch yn tanio ar ddechrau’r tymor tra bod Rhys Priestland wedi cael dechrau siomedig.
Er hynny, mae’r Howley wedi penderfynu mentro gydag amrywiaeth chwarae Priestland yn hytrach na phâr saff o ddwylo Biggar – does dim lle i faswr y Gweilch ar y fainc chwaith.
Y safle arall oedd yn y fantol oedd y blaenasgellwr tywyll, yn enwedig ar ôl y newyddion am anaf Ryan Jones ddoe.
Roedd nifer yn darogan y byddai Justin Tipuric, sy’n rif 7 fel arfer, yn cael cyfle i wisgo’r rhif 6 ar ôl dechrau ardderchog i’r tymor.
Ond, rheng-ôl cydnerth y Sgarlets, Josh Turnbull fydd yn dechrau’r gêm gyda’r capten Sam Warburton yn gwisgo saith a Toby Faletau yn wythwr – yr unig chwaraewr o’r Dreigiau i gyrraedd y 22.
Tîm Cymru Leigh Halfpenny (Gleision Caerdydd); Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), Scott Williams (Sgarlets), Jamie Roberts (Gleision Caerdydd), George North (Sgarlets); Rhys Priestland (Sgarlets), Tavis Knoyle (Sgarlets); Gethin Jenkins (Toulon), Matthew Rees (Sgarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ian Evans (Gweilch), Josh Turnbull (Sgarlets), Sam Warburton (Gleision Caerdydd, capten), Toby Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Robin McCusker (Sgarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Bayonne), James Hook (Perpignan), Liam Williams (Sgarlets).