Ched Evans
Mae’r pêl-droediwr, Ched Evans, yn dechrau apêl heddiw yn erbyn ei ddedfryd o garchar am dreisio merch 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl.

Fe fydd achos cyn-ymosodwr Sheffield a Chymru yn cael ei glywed yn y Llys Apêl yn Llundain. Fe gafodd y gwr 23 blwydd oed ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill eleni.

Ddoe, roedd deg o bobol gerbron llys ynadon Prestatyn, wedi’u cyhuddo o gyhoeddi enw’r ferch gafodd ei threisio mewn gohebiaeth gas ar wefannau cymdeithasol Facebook a Twitter.

Fe gafwyd naw ohonyn nhw’n euog, ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw dalu iawndal i’r ferch a enwyd.

Mae un o’r merched a oedd gerbron y llys ddoe yn gwadu’r cyhuddiadau, ac mae hi ar fechnïaeth yr heddlu tan Ionawr 21, 2013.