Jacobie Adriaanse
Mae’r prop pen tynn o Dde Affrica, Jacobie Adriaanse, wedi ymuno â’r Sgarlets.
Arwyddwyd Adriaanse dros yr haf, ac ef yw’r olaf o’r saith chwaraewr newydd i ymuno â’r rhanbarth ar ôl bod yn cystadlu yn y Cwpan Currie.
Hyfforddodd y prop gyda’i dîm newydd ddydd Gwener a bydd yn ychwanegiad defnyddiol iawn i rengoedd y Sgarlets wrth i nifer o chwaraewyr gynrychioli Cymru dros y mis nesaf.
“Mae’n wych i weld Jacobie’n ymuno â’r garfan nawr” meddai hyfforddwr y Sgarlets Simon Easterby.
“Mae hwn yn amser allweddol o’r tymor o ran colli chwaraewr profiadol i’r tîm cenedlaethol – felly ry’n ni’n siŵr y bydd yn cael effaith positif ac yn ychwanegu cryfder i’r pac.”
“Mae dod â rhywun o’i allu a phrofiad yn cyd-fynd a’n hathroniaeth i dargedu’r chwaraewyr iawn i ymuno. Mae’n rhaid i’r chwaraewyr yma, nid yn unig gyfrannu gyda pherfformiadau, ond hefyd yn ehangach i ddatblygu ein carfan – yn enwedig y genhedlaeth nesaf o flaenwyr.”
Profiad
Daw’r prop 27 oed i Gymru o’r MTN Lions ac mae’n adnabyddus fel sgrymiwr technegol da, a chariwr cryf o’r bêl yn y chwarae agored.
Mae Adriaanse yn 5 troedfedd 10 modfedd mewn taldra ac yn pwyso 18 stôn a 4 pwys. Bu’n chwarae i’r Boland Cavaliers, Cheetahs, Golden Lions a’r Griquas yn y gorffennol.
“Dyma gyfle gwych i mi ennill profiad o rygbi yn Ewrop ac ehangu fy mhrofiad o wahanol gystadlaethau” meddai Adriaanse.
“Yn amlwg dwi wedi bod yn gwylio cymaint â phosib o gemau’r Sgarlets o dramor ac mae eu chwarae corfforol ac ymroddiad yng ngemau Cwpan Heineken wedi creu argraff arna’i”
“O’r hyn ro’n i’n gweld maen nhw wedi cael nifer o frwydrau caled yn barod eleni a does dim amheuaeth ynglŷn ag ysbryd, balchder a phenderfyniad y tîm Sgarlets yma.”
Bydd Adriaanse yn gobeithio chwarae rhan i’r Sgarlets wrth iddyn nhw deithio i herio Caerwrangon yn y gwpan LV ddydd Sadwrn.