Cais gan yr asgellwr Eli Walker yn yr ail hanner oedd y trobwynt allweddol a roddodd fuddugoliaeth haeddiannol i’r Gweilch yn erbyn Leinster yn Stadiwm Liberty y pnawn yma.
Gyda chiciau’r maswr Matthew Morgan yn sgorio 14 pwynt, gan gynnwys gôl adlam yn y munudau olaf, llwyddodd y Gweilch i guro’r Gwyddelod o 19 i 10 a’u hamddifadu o bwynt bonws collwyr.
Yn sgil y fuddugoliaeth, mae’r Gweilch wedi dringo heibio i Leinster i’r pumed safle yng nghynghrair RaboDirect Pro 12.
Er bod Leinster 10-0 ar y blaen o fewn 10 munud cynta’r gêm, llwyddodd y Gweilch i’w rhwystro rhag ennill unrhyw bwyntiau wedyn.
Roedd y ddau dîm heb eu sêr rhyngwladol, a’r Gweilch yn gorfod chwarae heb Ashley Beck, Dan Biggar, Ryan Bevington, Aaron Jarvis, Richard Hibbard, Ian Evans, Alun Wyn Jones, Ryan Jones a Justin Tipuric.
Dechreuodd Leinster yn dda a chael eu gwobrwyo â chic gosb gan Ian Madigan ar ôl pedwar munud. Dringodd y sgôr o 3-0 i 10-0 bedwar munud wedyn pan sgoriodd Leo Auva gais a gafodd ei drosi gan Madigan.
Mewn glaw trwm dyfalbarhaodd y Gweilch a llwyddo i dorri mantais yr ymwelwyr i un pwynt gyda thair cic gosb erbyn hanner amser.
Uchafbwynt y gêm oedd rhediad 50 metr wych gan Richard Fussell, gan alluogi Walker i sgorio cais a gafodd ei drosi i roi’r Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf o 16 pwynt i 10.
Ddau funud cyn y diwedd llwyddodd gôl adlam Morgan i selio’r fuddugoliaeth i’r Gweilch.