Mae’r Scarlets wedi codi i’r ail safle yn nhabl RaboDirect Pro12 ar ôl curo’r tîm o’r Eidal, Zebre, 22-13 yn Llanelli neithiwr.

Yr asgellwr newydd, Kristian Phillips a sgoriodd eu hunig gais, ac i droed y maswr Aled Thomas oedd y diolch am y 17 pwynt arall.

Heb neb o’u 12 o chwaraewyr sydd yng ngharfan Cymru’n chwarae, fe fu’n rhaid i’r Cochion weithio’n galed am eu buddugoliaeth.

Yr Eidalwyr aeth ar y blaen i ddechrau ar ôl 13 munud gyda chic gosb gan Daniel Halangahu, ond methodd ddau gyfle i ddyblu’r sgôr ar y 18fed a’r 22ain munud, wrth i’r Scarlets gael trafferth i greu unrhyw batrwm clir i’w chwarae.

Fe ddaeth y Scarlets yn gyfartal ar ôl cic gosb gan Thomas wedi 36 munud yn sgil sgarmes a ddymchwelodd.

Ond roedd Zebre yn ôl ar y blaen ddau funud wedyn wedi ail gic gosb gan Halangahu, gyda Thomas yn methu cic ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Yr ail hanner

Llwyddodd y Scarlets i ennill mwy o droedle yn nhiriogaeth y Scarlets ar cychwyn yr ail hanner wrth i Tito Tebaldi gael ei anfon i’r cwrt cosbi. Roedden nhw’n gyfartal unwaith eto gyda chic gosb arall gan Thomas wedi 48 munud.

Ar ôl mynd ar y blaen gyda chic hir gan Thomas wedi 55 munud, roedd y Scarlets yn ymddangos fel petaen nhw’n cael mwy o reolaeth o’r gêm.

Eto i gyd, fe wnaeth Zebre lansio gwrth-ymosodiad ar ôl i’r Scarlets golli’r bêl o fewn 22 Zebre, gyda’r canolwr Matteo Pratichetti yn sgorio cais a gafodd ei drosi gan Halangahu.

Fodd bynnag, cadwodd y Cochion eu pennau, a thorri’r diffyg gyda phedwaredd cic gosb gan Thomas cyn i Phillips ruthro i’r gornel dde ar ôl i Zebre fethu â dal cic gan Aled Davies.

Fe wnaeth Thomas drosi’r cais a sgorio pumed cic gosb ddau funud cyn y diwedd gan amddifadu Zebre, sydd wedi colli pob un o’i gemau’r tymor hwn, o bwynt bonws collwyr.