Rheolwr Caerdydd, Malky Mackay
Dim ond trwy wahaniaeth goliau y mae’r Adar Glas yn aros ar frig y gynghrair Pencampwriaeth nPower bellach ar ôl colli 2-1 yn Bolton ddoe.

Roedd hi’n gêm siomedig a ddiweddodd rediad o dair buddugoliaeth yn olynol iddyn nhw – ac mae’r rheolwr Malky Mackay wedi beirniadu’r dyfarnwr a’i gyhuddo o anghysondeb.

Roedd y gêm wedi cychwyn yn ddigon addawol i Gaerdydd, gan fynd ar y blaen wedi i Craig Noone sgorio yn y 40fed munud.

Ond un o eilwyr Bolton, y Ffrancwr David Ngog, oedd seren y gêm ar ôl dod ymlaen yn yr ail hanner drwy sgorio gôl a gafodd ei gwrthod, ennill cic o’r smotyn i Martin Petrov ac wedyn penio’r bêl i’r rhwyd i ennill y gêm.

Cerdyn coch

Fodd bynnag, cafodd ei anfon o’r cae yn yr eiliadau olaf, ac mae Malky Mackay yn flin na chafodd Mark Hudson gic gosb.

“Ry’n ni wedi cael cam,” meddai.

“Cafodd Bolton gic o’r smotyn am ddim yn yr ail hanner. Roedd David Ngog wedi plymio i lawr cyn iddo gael ei gyffwrdd hyd yn oed, os felly fe ddylen ni fod wedi cael cic o’r smotyn gyda Hudson.

“Dw i’n gobeithio y bydd y dyfarnwr a’r llumanwr yn edrych ar eu perfformiadau oherwydd doedd y naill na’r llall yn ddigon da.

“Fe wnaeth hynny gostio’r gêm inni a gallai hyn fod yn dyngedfennol ar ddiwedd y tymor.”