Pablo Hernandez - achub yr Elyrch gyda gôl hwyr
Drwy sgorio gôl dri munud cyn y diwedd, llwyddodd Pablo Hernandez i achub y dydd i’r Elyrch, a chicio Chelsea o frig Uwch Gynghrair Barclays.

Wedi i Chelsea sgorio’u hunig gôl ar ôl i awr o’r gêm fynd heibio, roedd yn ymddangos y byddai hynny’n ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r ymwelwyr.

Er bod yr Elyrch yn llawn hyder ar ôl curo Lerpwl ganol yr wythnos, ac wedi chwarae’n well na Chelsea yn yr hanner cyntaf, wnaethon nhw ddim llwyddo i greu unrhyw gyfleoedd gwirioneddol.

Yn yr ail hanner, fe welwyd gwelliant amlwg yn chwarae’r ymwelwyr ac fe gawson nhw eu gwobr wrth i Victor Moses benio’r bêl i’r rhwyd.

Ond roedd yr Elyrch yn benderfynol o daro’n ôl wrth i Chelsea geisio gadw’u mantais, a llwyddodd gôl Hernandez i sicrhau gêm gyfartal gwbl haeddiannol.