Boddi wrth ymyl y lan oedd hanes Caerdydd yn erbyn Munster gartref neithiwr wrth golli eu chweched gêm yn olynol.
Cais munud olaf gan gyn-ganolwr y Gleision, Casey Laulala a’u hamddifadodd o fuddugoliaeth a’u gorfodi i fodloni ar bwynt bonws collwyr.
Roedd perfformiad y Gleision yn llawer gwell na’r hyn a fu, yn enwedig o gymharu â’u dwy gêm ddiwethaf yn erbyn taleithiau Iwerddon.
Cychwynnodd y Gleision yn gyflym yn erbyn Munster ac fe fuon nhw ar y blaen am ychydig ar ôl cic gosb gan Jason Tovey. Buan y gwnaeth y Gwyddelod daro’n ôl fodd bynnag wrth i’r rhif wyth Tommy O’Donnell sgorio’i gyntaf o ddau gais ac O’Gara yn trosi.
Er i O’Donnell gael gerdyn melyn ychydig funudau wedyn, llwyddodd Munster i oroesi eu cyfnod gyda 14 dyn, gydag O’Gara yn cynyddu mantais yr ymwelwyr gyda chic gosb cyn hanner amser.
O fewn chwe munud i’r ail hanner roedd y Gleision wedi dal i fyny gyda nhw gyda chais gan Dafydd Hewitt a gafodd ei drosi gan Ceri Sweeney a oedd wedi cymryd lle Tovey.
Hanner ffordd drwy’r ail hanner, sgoriodd Sweeney dri phwynt arall gyda chic gosb. Fuo’r Gleision ddim ar y blaen yn hir fodd bynnag wrth i O’Donnell sgorio’i ail gais, a hynny rhwng y pyst, gydag O’Gara yn trosi unwaith eto.
Fe ddaeth y Gleision yn ôl i fod un pwynt ar y blaen pan sgoriodd Lewis Jones gais, er i Sweeney fethu â’i drosi.
Ond wrth i’r cefnogwyr baratoi i ddathlu buddugoliaeth o’r diwedd, croesodd Laulala y llinell a rhoddodd O’Gara yr hoelen olaf yn yr arch.