Cafodd y Dreigiau gêm siomedig arall neithiwr ar ôl methu sgorio mwy na dwy gic gosb yn erbyn Rhyfelwyr Glasgow.

Roedd Glasgow ar y blaen o fewn pum munud, ac ni fu’r Dreigiau’n fygythiad iddyn nhw ar unrhyw adeg o’r gêm. Sgoriodd y tîm cartref bum cais yn y gêm gan sicrhau buddugolaeth ysgubol o 37-6 yn erbyn yr ymwelwyr o Gymru.

Yn sgil y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws, mae Glasgow bellach yn ail yng nghynghrair pencampwriaeth RaboDirect PRO12 tra bod y Dreigiau’n aros yn ail o’r gwaelod.