Yfory fe fydd y Scarlets yn herio Zebre ar Barc y Scarlets.
Fe fydd y gwibiwr Kristian Phillips yn debygol o chwarae yn ei gêm gystadleuol gyntaf ers iddo ymuno a’r rhanbarth yn yr haf.
Gyda 12 o’r chwaraewyr y rhanbarth yn ymarfer gyda’r tîm rhyngwladol yng Ngwlad Pwyl, bydd Phillips yn obeithiol i drosglwyddo ei lwyddiant yn yr Uwch Gynghriar i’r gemau rhanbarthol.
Mae Simon Easterby wedi cael ei orfodi i wneud llawer o newidiadau oherwydd absenoldeb y chwaraewyr. Mae’r blaenasgellwr Johnathan Edwards wedi dweud bod y chwaraewyr sy’n dod mewn i’r tîm am wneud yn fawr o’r cyfle.
‘‘Mae’r bois ar bigau drain yn barod i chwarae. Rydym wedi colli llawer o’r chwaraewyr, ond mae’n rhaid i ni fynd ati i chwarae’n dda,’’ meddai Edwards.
‘‘Rydym yn ymwybodol o’r her sydd o’m blaenau, chi byth yn gwybod pryd fydd y tro nesaf i chi gwisgo’r crys yna eto,’’ ychwanegodd Edwards.