Dafydd Wigley
Mae Dafydd Wigley  wedi beirniadu cynlluniau’r Llywodraeth Glymblaid yn San Steffan i symud teuluoedd o Lundain sy’n wynebu digartrefedd o ganlyniad i’r cap budd-daliadau tai a chynydd mewn rhent i ardaloedd mwy fforddiadwy’r Deyrnas Unedig.

Mae’n honni fod hyn yn ddim llai na chynllun clirio i gael gwared ar dlodion y ddinas.

“Dw i wedi mynegi gofid dros y sefyllfa hynod bryderus hon ers i gynlluniau’r Mesur Diwygio Lles ar gyfer budd-daliadau tai ddod i’r fei am y tro cynta’,” meddai’r Arglwydd Wigley.

“Pan yn pleidleisio yn erbyn y cynlluniau hyn yn Nhŷ’r Arglwyddi, rhybuddiais fod y bobol hyn yn cael eu haberthu gan Lywodraeth sy’n chwarae ar ddiwylliant gwrth-fudd-daliadau, heb wahaniaethau rhwng gwahanol raddau o angen.

“Dydi hyn yn ddim llai na chynllun clirio i symud pobl fregus, yn cynnwys plant ysgol a phobl anabl, i ardaloedd ble fo rhent yn is, ond ble fo siawns fechan iawn o ganfod gwaith.

“Bydd cynllun o’r fath ond yn gwaethygu problemau dwys megis diweithdra a phrinder tai sydd eisoes yn wynebu’r ardaloedd hyn – mae’n annheg ar y teuluoedd sy’n cael eu symud ac ar y cymunedau ble fydd yn rhaid iddynt ail-gartrefu.”

“Mae’r Llywodraeth yn gwbl anghywir ar y mater hwn ac yn cosbi’r bobl anghywir. Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson am gap rhent ledled Llundain i herio landlordiaid sy’n cymryd mantais o bobl fregus.

“Mae obsesiwn y Ceidwadwyr gyda datgymalu’r wladwriaeth les yn creu etifeddiaeth wenwynig a fydd yn arwain at ddioddefaint pellach ymysg aelodau mwyaf bregus cymdeithas.”