Fe gafodd staff Cyngor Sir Penfro eu galw allan i ddelio â nifer o adroddiadau o lifogydd yn ne’r sir ddoe.

Roedd y mwyafrif o’r adroddiadau yn deillio o ffyrdd dan ddwr, ond roedd un achos hefyd o ddwr yn llifo i mewn i dy yn ardal Pleasant Valley yn Stepaside.

O bedwar o’r gloch brynhawn ddoe, fe fu tim o 14 o staff yn delio â llifogydd yn Clarbeston Road, Amroth, Landshipping, y ffordd o Lanteg i Tafarnspite, Saundersfoot, Pentlepoir, Cilgeti, Arberth, Crinow a Princes Gate.

Yng ngogledd y sir, fe fu staff y Cyngor yn delio ag ambell achos o ddraeniau wedi gorlifo yn ardal Tyddewi.