Justin Lynch gyda'i wobrau o Oklahoma
Mae technegydd o Goleg Gwent wedi ennill gwobr gynta’ yn sioe gacennau yr Unol Daleithiau.

Fe hedfanodd Justin Lynch 8,000 o filltiroedd i Sioe Celfyddyd Siwgr Talaith Oklahoma, gyda threfniant blodau siwgr bregus – cyn cael ei goroni’n orau yn ei adran, a’r gorau yn y sioe gyfan (heb fod yn drefnydd proffesiynol).

Fe gymrodd hi dros ddau ddiwrnod – 50 awr – i Justin gwblhau’r trefniannau siwgr, cyn hedfan i America. Ond fe fu’n rhaid tynnu’r trefniant yn ddarnau cyn hedfan, a gosod pob petal a stamen mewn haenau o wlân cotwm er mwyn eu gwarchod rhag torri.

“Ro’n i wrth fy  modd ar ddod yn gynta’,” meddai Justin. “Y noson cyn y gystadleuaeth, ro’n i’n gosod y trefniant yn ôl gyda’i gilydd; fe gymrodd hi chwe awr i dapio’r petalau yn eu lle a chyrraedd y safon yr o’n i’n hapus ag e. “

Fe weithiodd Justin Lynch gacen tair haen ar thema Cymru – gyda draig, cennin pedr a chennin arni. Wedi’r sioe yn Oklahoma, fe gafodd Justin Lynch dreulio deuddydd mewn gweithdy gyda’r artist cacennau, Orlando Bloom.