Mitt Romney a Barack Obama - etholiad fory
Mae Barack Obama yn dibynnu ar y cyn-Arlywydd Bill Clinton a’r canwr roc, Bruce Springsteen, i ledaenu negeseuon munud-olaf cyn y bydd pobol yr Unol Daleithiau yn bwrw’u pleidlais yn yr etholiad arlywyddol.
Mae hefyd wedi comisiynu nifer o berfformwyr enwog a phobol amlwg – o Lady Gaga i Billie Jean King, o Jay-Z i Crosby, Stills a Nash.
Mae ymgyrch Obama wedi defnyddio rhestr o 181 o actorion, cerddorion, awduron, athletwyr, meiri ac aelodau’r Gyngres, er mwyn ceisio sicrhau ail dymor yn y Ty Gwyn i Arlywydd croenddu cynta’ America.
Ddydd Sadwrn, fe chwaraeodd Stevie Wonder gyngerdd yn Cleveland. Roedd y canwr-gyfansoddwr John Legend a’r actor Laurence Fishburne ymysg y cefnogwyr hynny fu yn Ohio yn ceisio perswadio eglwysi.
Roedd Danny DeVito yn canfasio yn Wisconsin dros y Sul, ac mae rhai o enwau mawr Hollywood – yn cynnwys Samuel L Jackson, Anne Hathaway a Scarlett Johansson – wedi bod yn siarad am Obama ar orsafoedd radio.
Mae’r enwau eraill ar restr Barack Obama yn cynnwys prif leisydd band y Black Eyed Peas, Will.i.am.
Yn y cyfamser mae Mitt Romney yn ymweld a Florida, Virginia a New Hampshire mewn ymdrech i ddarbwyllo pleidleiswyr.