Pont Hafren
Dylai’r bythau casglu tollau ar bontydd Hafren gael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Mae Carwyn Jones wedi galw am drafodaeth gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig ar bwy fydd yn rheoli’r pontydd ar ôl 2018.

“R’yn ni’n gwybod fod Pontydd Hafren yn gyswllt pwysig yn is-adeiledd economaidd a thrafnidiaeth Cymru.

“Dyna pam r’yn ni wedi comisiynu adroddiad annibynnol i edrych ar effaith economaidd y tollau ac asesu’r effeithiau ar economi Cymru,” meddai Carwyn Jones fore heddiw.

“Mae’n amser i ddechrau meddwl am ddyfodol y pontydd fel y gall trefniant newydd gael ei sicrhau sy’n gwneud y gorau o’r budd ariannol i Gymru a’r Deyrnas Unedig.

“Rwy’n galw, felly, am drafodaethau cynnar am y pontydd pan fydd y cytundeb presennol yn gorffen. Mae angen i’r trafodaethau yna edrych ar addasrwydd y ddeddfwriaeth bresennol a dyfodol y tollau.”