Ched Evans - cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar ym mis Ebrill eleni
Mae naw o bobol wedi ymddangos gerbron llys ynadon wedi’u cyhuddo o gyhoeddi enw’r ferch a gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr, Ched Evans.
Roedd y naw wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad. Roedden nhw i gyd yn honi nad oedden nhw’n ymwybodol bod cyhoeddi enw’r ferch yn drosedd gyfreithiol.
Mae chwech o’r naw sydd wedi ymddangos gerbron ynadon Prestatyn, yn dod o Gymru, a thri ohonyn nhw o Sheffield, Swydd Efrog.
Cafodd y naw ddirwy o £624 yr un.
Mae’r naw wedi eu cyhuddo o gyhoeddi enw’r ddynes 18 oed ar wefan gymdeithasol Twitter ar ôl yr achos llys yn erbyn Ched Evans ym mis Ebrill eleni. Fe gafwyd Ched Evans yn euog o dreisio, ac fe gafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd dan glo. Mae disgwyl iddo apelio yn erbyn ei ddedfryd yn y Llys Apel yfory.
Enwau’r naw yn y llys heddiw yw Michael Ashton o Landdulas (21 oed); Daniel Cardwell o Sheffield (25 oed); Benjamin Davies o’r Rhyl (27 oed); Paul Devine o Sheffield (26 oed); Alexandra Hewitt o Frychdyn (24 oed); Dominic Hill o’r Rhyl (23 oed); Shaun Littler o Sheffield (22 oed); Hollie Price o Brestatyn (25 oed), a Gemma Thomas o’r Rhyl (18 oed).