Fe fydd cynhadledd yng Nghaerdydd ddiwedd y mis yn ymateb i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk ar ragor o bwerau i Gymru.

Geraint Talfan Davies fydd cadeirydd y gynhadledd a gaiff ei chynnal yng ngwesty’r Park Thistle ddydd Llun, Tachwedd 26.

Mae disgwyl i Adroddiad Comisiwn Silk gael ei gyhoeddi ganol y mis hwn. Ymhlith y cwestiynau y bydd y gynhadledd yn ceisio ateb iddyn nhw mae:

·         Pa mor bell y dylid caniatau i Lywodraeth Cymru fynd i lawr lôn trethu a benthyca?

·         A fydd hyn yn golygu mwy o atebolrwydd, neu ddim ond trwydded bellach i drethu a gwario?

·         Pwy a beth sydd wedi dylanwadu ar y Comisiwn?

·         Pa effaith gaiff unrhyw newid ar economi Cymru?

·         Os bydd newid, beth fydd y sialensau i’r gwasanaeth sifil yng Nghymru?

·         Beth fydd oblygiadau unrhyw newid ar weddill y Deyrnas Unedig?