Mae cwmnïau ynni yn gwneud llawer o arian ar gefn cwsmeriaid sy’n talu’u biliau trwy ddebyd uniongyrchol – ac yn aml iawn, maen nhw’n gofyn iddyn nhw dalu mwy nag sydd angen.

Mae Aelod Cynulliad Democratiaid Rhyddfrydol De-Orllewin Cymru, Peter Black, yn dweud ei fod “wedi ei siomi” ar ôl darllen adroddiadau diweddar gan gylchgronau defnyddwyr Which? a GoCompare, sy’n awgrymu fod cwmnïau ynni sy’n gwneud pwynt o gadw cwsmeriaid mewn credyd ar ddiwedd pob blwyddyn.

“Mae’r cwmnïau ynni yn dweud mai eu bwriad ydi gwneud yn siŵr fod gan gwsmeriaid debyd uniongyrchol falans o sero ar ddiwedd pob blwyddyn – a dyna sut y dylai hi fod,” meddai Peter Black.

“Ond mae adroddiadau’n amcangyfrif fod y cwmnïau hyn ar eu hennill o tua £1bn oherwydd bod pobol yn gordalu,” meddai wedyn. “Ac maen nhw wedi darganfod fod 56% o’r cwsmeriaid mewn credyd o tua £161 yr un.”

At hynny, meddai Peter Black, mae ymchwil yn dangos fod cwmnïau ynni, mewn 59% o achosion, yn awgrymu y dylai cwsmeriaid dalu mwy bob mis.

“Fe fydda’ i’n cyfarfod ag Ofgen yn ddiweddarach y mis hwn, a dw i’n bwriadu codi’r mater a’u hannog i gymryd camau brys i roi’r gorau i’r arfer yma.”