Mae bachgen dyflwydd oed wedi ei ladd ar ôl syrthio i mewn i bydew cwn gwyllt mewn sw yn yr Unol Daleithiau.

Roedd ei fam wedi ei roi i eistedd ar ben wal yn Sw Pittsburgh er mwyn gwylio’r cwn gwyllt o Affrica.

Ond fe syrthiodd y bachgen bach, ac fe ymosododd y cwn arno a’i larpio. Dyw’r heddlu ddim wedi cadarnhau p’un ai’r gwymp ynteu’r ymosodiad a laddodd y bachgen.

“Bron iawn yn syth wedi iddo golli ei falans, fe syrthiodd oddi ar y rheiliau i mewn i’r pydew,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Yn syth bin, fe ddaeth 11 o gwn i ymosod arno.

“Roedd yn ymosodiad erchyll,” meddai wedyn.

Er i staff y sw ymateb o fewn munudau, gan hysio saith o’r cwn i gwt, roedd hi’n rhy hwyr i achub y bachgen.