Carwyn Jones
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn galw ar Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gynnal ymchwiliad newydd i honiadau o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru yn y 1970au a’r 1980au.
Fe wnaeth Keith Towler ei sylwadau ar raglen y Politics Show dros y Sul, wedi i wr a dreuliodd ei blentyndod yn rhai o sefydliadau’r gogledd wneud honiadau o gam-drin yn erbyn Ceidwadwr blaenllaw.
Er bod ymchwiliad wedi ei gynnal ddiwedd y 1990au, mae amheuon bellach fod yna “gyfyngiadau” ar hwnnw, a bod llawer o dystiolaeth wedi cael ei hystyried yn amherthnasol.
“Mae’n hawdd nawr i ni fod yn amheus am y cyfyngiadau a roddwyd ar yr ymchwiliad… oherwydd nawr yn 2012 byddai hynny’n annerbyniol,” meddai Keith Towler ar y rhaglen.
“Mae’r ffaith bod rhywun oedd yn amlwg yn ddioddefwr yn Bryn Estyn… yn dweud bod yr hyn yr oedd am ei ddweud y tu hwnt i ffiniau’r ymchwiliad… a bod pobl wedi dweud wrtho na ddylai wneud y sylwadau… mae hynny’n gwbl anghywir.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy ddweud, “Er bod yr honiad yn cyfeirio at y cyfnod cyn datganoli, rydym yn credu mewn tryloywder wrth ddelio gyda materion fel hyn, ond ni allwn wneud rhagor o sylw tan ein bod yn gweld mwy o fanylion.”