Mae o leiaf un person wedi ei anafu wedi i lifogydd daro ardal Pentywyn, Sir Gaerfyrddin, nos Sul.

Fe gafodd 40 o bobl eu hachub o faes carafanau yn y pentref, wedi i ddegau o garafanau gael eu hamgylchynu gan ddŵr.

Fe fu’n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin ddefnyddio cwch fel rhan o’r achub, cyn i’r gwersyllwyr gael eu symud i garafanau eraill ar dir uwch.

Roedd glaw mawr hefyd wedi achosi tirlithriad yn Aberaeron neithiwr.  Bu’n rhaid cau’r  A497 ar y ffordd allan o Aberaeron i’r de.