Fe fydd disgyblion Ysgol Uwchradd Cwmcarn yng Nghaerffili  yn symud i safle newydd heddiw ar hen gampws Glyn Ebwy.

Bu’n rhaid cau’r ysgol, sydd â mwy na 900 o ddisgyblion, ar ôl i asbestos gael ei ddarganfod ar y safle fis diwethaf.

Dywed Cyngor Sir Caerffili eu bod nhw wedi bod yn symud adnoddau i’r safle newydd. Mae llythyron hefyd wedi cael eu hanfon at rieni yn amlinellu’r trefniadau teithio ar gyfer y disgyblion.

Er bod symud i’r safle newydd yn datrys y broblem ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol dywed y cyngor y bydd yn rhaid edrych ar sut i ddelio efo’r sefyllfa yn y tymor hir.

Roedd rhai  disgyblion ym mlwyddyn 12 a 13 wedi dychwelyd i Ysgol Cwmcarn ar  19 Hydref ac yn cael eu dysgu yn y ganolfan perfformiadau celfyddydol ac roedd disgyblion Blwyddyn 11 hefyd wedi  dychwelyd i’r safle ar 22 Hydref.

Ond fe fydd yr holl ddisgyblion yn symud i’r safle Newydd o heddiw ymlaen.