Dylai’r nod o gludo mwy o nwyddau ar drenau fynd law yn llaw â’r ymgyrch dros drydaneiddio rheilffordd y gogledd, yn ôl cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas.

Roedd yn ymateb i gyhoeddiad gan Ysgrifennydd Cymru, David Jones, y byddai Llywodraeth Prydain yn gefnogol i’r syniad o drydaneiddio’r rheilffordd petai cynllun busnes trylwyr yn cael ei baratoi.

Fe fyddai trydaneiddio’r rheilffordd o Gaer i Gaergybi’n debyg o gostio tua £300 miliwn, a dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod angen cydweithio rhwng llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd a’r cynghorau lleol er mwyn gwthio cynllun o’r fath yn ei flaen.

Wrth groesawu sylwadau David Jones, dywedodd Dafydd Elis-Thomas ei bod hi’n holl bwysig cael mwy o drenau nwyddau ar y rheilffordd.

“Mae tagfeydd traffig cyson ar yr A55 ar hyn o bryd, ac mae hynny’n arwain at yrwyr lorïau’n defnyddio ffyrdd llai er mwyn osgoi tagfeydd,” meddai. “Mae gormod o lawer o lorïau mawr yn cael eu gyrru ar hyd ffyrdd cwbl anaddas iddyn nhw fel yn nyffryn Conwy ac ar yr A5.”

Yn ogystal â rheilffordd y gogledd, galwodd hefyd am baratoi cynlluniau tebyg i drydaneiddio rheilffordd y gororau, o Gaer i Gasnewydd, yn ogystal.

“Mae hyn am fod yn hanfodol er mwyn gwella’r cysylltiadau rhwng y de a’r gogledd,” meddai.