Rhai o'r medalwyr aur Olympaidd yn cael eu llongyfarch gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a'r Llywydd Rosemary Butler yn y Senedd yr wythnos yma
Cyhoeddodd y Post Brenhinol y bydd saith o flychau post Cymru’n aros yn aur yn barhaol i ddathlu llwyddiant athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd.
Cafodd y saith – yn y Fflint, Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr, y Gelli, Tredegar, Abertawe a Chaerdydd – eu paentio’n aur ym mis Awst i ddathlu llwyddiant enillwyr medal aur o’r trefi hyn.
Dyma’r tro cyntaf i’r Post Brenhinol newid lliw blychau o’r fath yn barhaol, a bydd plac yn cael ei osod ar bob un i enwi’r athletwr a’u camp.
Wrth groesawu’r enillwyr i dderbyniad yn y Senedd i ddathlu eu llwyddiant, meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Fe all pawb yng Nghymru fod yn wirioneddol falch o’r hyn a gyflawnwyd gan ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn ystod y Gemau, a bydd eu campau gwirioneddol ysbrydoledig yn aros gyda ni am byth.
“Mae’r blychau post aur hyn yn ffordd berffaith o ddathlu’n barhaol lwyddiannau ein henillwyr Medalau Aur yng Nghymru.”
Y saith blwch aur
Y saith blwch post aur yng Nghymru yw:
- Gentle Way ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i ddathlu medal aur Aled Davies yn y Gemau Paralympaidd mewn Athletau: Disgen Dynion – F42
- Stryd y Castell yng Nghaerdydd, i ddathlu medal aur Olympaidd Geraint Thomas yn y Ras Ymlid i Dimau Dynion
- Stryd yr Eglwys yn y Fflint i ddathlu medal aur Olympaidd Jade Jones mewn Taekwondo i ferched 57kg
- Stryd yr Eglwys yn y Gelli Gandryll i ddathlu medal aur Josie Pearson yn y Gemau Paralympaidd mewn Athletau: Disgen Merched
- Trawler Road yn Abertawe, i ddathlu medal aur Ellie Simmonds yn y Gemau Paralympaidd mewn Nofio: Medli Unigol i Ferched 200m SM6
- Commercial Street yn Nhredegar, i ddathlu medal aur Mark Colbourne yn y Gemau Paralympaidd yn y ras ymlid unigol 3km C1
- Swyddfa Bost Town Hill Wrecsam i ddathlu medal aur Olympaidd Tom James yn y ras Rwyfo i Bedwar Dyn