Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio i achos marwolaeth sydyn ar bont yr A48 uwchben yr M4 ym Margam tua 11.35 y bore yma.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad a chadarnhau bod  dyn wedi marw yno.

Cafodd darn o’r M4 ei gau i’r ddau gyfeiriad am gyfnod. Er bod y ffordd wedi ailagor bellach mae tagfeydd o hyd ar y draffordd a chaiff modurwyr eu cynghori i fynd ar ffordd wahanol.

Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad eu ffonio ar 101.