Y pedoffeil a'r twyllwr Jimmy Saville
Mae Cymraes a oedd yn brifathrawes ysgol lle bu Jimmy Saville yn cam-drin merched ifanc wedi beirniadu’r dioddefwyr am beidio â dweud wrth ar y pryd.
Er yn cyfaddef iddi gael ei thwyllo gan y pedoffeil, mae Margaret Jones, sy’n wreiddiol o Gwmtwrch, yn cyhuddo’r merched o fod yn “ferched drwg sy’n chwilio am arian”.
Roedd Margaret Jones, prifathrawes ysgol Duncroft yn Staines, ysgol yn swydd Surrey i ferched a oedd wedi camymddwyn, wedi caniatáu i’r troseddwr rhywiol aros yn yr ysgol dros nos yn ystod yr 1970au.
“Ro’n i’n meddwl ei fod yn ddyn neis,” meddai. “Fe ges i fy nhwyllo ganddo. Ddywedodd neb wrtho i ei fod e’n pervert.”
Honiadau cyn-ddisgyblion
Er gwaethaf honiadau gan dair o’r cyn-ddisgyblion yn erbyn y diddanwr honedig yn 2007 ni wnaeth heddlu Surrey holi neb o gyn-weithwyr yr ysgol.
Dywedodd Margaret Jones wrth y Daily Mail nad oedd neb o’r disgyblion wedi cwyno wrthi ar y pryd.
“Fe gawson nhw gyfle i ddweud wrth rywun. Ond roedd yn siwtio rhai ohonyn nhw – rhai, nid pawb ohonyn nhw – i aros 30 mlynedd. Maen nhw i gyd yn chwilio am arian.
“Roedden nhw’n gwybod petaen nhw wedi ei riportio i mi y byddwn wedi ei riportio i’r heddlu. A dw i wedi riportio pobl i’r heddlu. Os na wnaethon nhw ddweud wrtho i am Jimmy Saville, maen nhw’n haeddu popeth maen nhw’n ei gael.”