Cartref Plant Bryn Estyn
Mae dyn gafodd ei gam-drin yn rhywiol pan oedd yn byw yn un o gartrefi plant gogledd Cymru yn yr 1970au a’r 1980au wedi enwi gwleidydd Ceidwadol blaenllaw ar y pryd fel un o’r rhai a ymosododd arno.
Mewn cyfweliad ar Newsnight neithiwr, dywedodd Steven Messham fod y gwleidydd wedi ei gam-drin o leiaf ddwsin o weithiau.
Ni chafodd, fodd bynnag, enwi’r gwleidydd ar y rhaglen.
Roedd cyn-Aelod Seneddol Caer a oedd yn ysgrifennydd seneddol i Margaret Thatcher, Syr Peter Morrison, sydd wedi marw, eisoes wedi cael ei enwi – ond mae’r un y cyfeiriodd Steven Messham yn dal yn fyw.
Cadarnhau honiadau
Mae’r hyn a ddywed y dioddefwr yn cadarnhau honiadau gan Rod Richards, y cyn-weinidog yn y Swyddfa Gymreig, yr wythnos diwethaf fod Peter Morrison a’r Tori anhysbys yn ymwelwyr cyson â chartrefi plant Bryn Estyn a Bryn Alun yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Roedd y ddau gartref yn rhan o dribiwnlys ymchwil o dan arweiniad y diweddar gyn-farnwr Syr Ronald Waterhouse i honiadau o gamdrin hyd at 650 o blant mewn 40 o gartrefi yn ystod y nawdegau.
Dywedodd Steven Messham iddo gyflwyno tystiolaeth i’r tribiwnlyws hwnnw, ond iddo gael ei rybuddio ymlaen llaw na fyddai’n cael enwi’r Tori.
Mae’n gofyn am gyfarfod gyda’r Prif Weinidog David Cameron, ac yn galw am ymchwiliad o’r newydd i’r anfadwaith ffiaidd a ddigwyddodd yn y cyfnod hwnnw.