Tra’n croesawu’r newyddion na fydd Llywodraeth San Steffan yn herio’r ddeddf iaith newydd oedd wedi ei phasio yn y Cynulliad, mae Cymdeithas yr Iaith yn parhau i fynnu bod angen i’r Cofnod fod ar agel yn ddwyieithog o fewn 24 awr.

Roedd Swyddfa Cymru wedi herio hawl y Cynulliad I ddeddfu ar yr iaith Saesneg, wedi i’r Bil Ieithoedd Swyddogol gael ei phasio yn y Cynullaid fi s diwetha’.

“Rydyn ni’n croesawu’r newyddion y bydd y Bil yn dod yn gyfraith, a’r ffaith bod sicrwydd y bydd Cofnod Cymraeg o sesiynau llawn ar gael i’r cyhoedd: ni ddylai Llywodraeth Prydain ymyrryd â materion datganoledig fel hyn,” meddai Sian Howys llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:.

“Credwn y dylai’r Bil fod wedi mynd yn bellach mewn sawl ffordd. Fodd bynnag, credwn fod camau arloesol a chadarnhaol iawn posib y gallai’r Cynulliad eu cymryd drwy’r Cynllun Iaith a ddaw yn sgil pasio’r Bil hwn. Er enghraifft, dylai’r Cynllun gynnwys dychwelyd y Cynulliad i’r arfer o gyhoeddi’r Cofnod llawn ddwyieithog o fewn 24 awr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau Cynulliad er mwyn sicrhau bod ein deddfwrfa genedlaethol, trwy ei gynllun Iaith, yn arwain y ffordd o ran ymdrin â’r iaith.”