James Bond
Mae Ioan Gruffudd wedi dweud nad yw’n gweddu i rôl James Bond ar hyn o bryd.

Bu Bond mania yn ferw gwyllt ers wythnosau gyda’r ffilm newydd Skyfall yn cael ei brolio i’r cymylau.

Yn y gorffennol mae rhai wedi dweud y gallai Ioan Gruffudd, yr actor 39 oed fu’n gychwynodd ei yrfa ar Pobol y Cwm, fod yn 007 da.

“Dw i’n meddwl ’mod i’n edrych yn fwy diniwed na Daniel Craig,” meddai, “bydd rhaid i fi fyw ychydig mwy cyn chwarae Bond!”

Bellach yn byw yn Los Angeles, mae Ioan Gruffudd wedi talu teyrnged wresog i’r Sianel Gymraeg ar ei phen-blwydd yn 30 oed.

“Mae fy nyled i’n fawr i S4C, ac i bobl Cymru a’r diwylliant yna a roddodd yr hyder i mi i barhau gydag actio. Wna i fyth anghofio hynny.”